Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

 

Papur 2: Atodiad A - Grŵp Swyddogion yr Iaith Gymraeg

 

 

Atodiad A

 

 

Cefndir

 

6. Mae Adran 35(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi’r hyn a ganlyn ar hyn o bryd, yng nghyd-destun Trin yn gyfartal:

(1)The Assembly must, in the conduct of Assembly proceedings, give effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.[b1] 

 

7. Mae paragraff 8 (3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, sy’n ymwneud â’r egwyddorion y mae swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad i’w harfer yn unol â hwy, yn ychwanegu'r hyn a ganlyn:

(3)…. effect must be given, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.[b2] 

 

11. Mae’r Cynllun hwn, sydd i’w baratoi ac i’w fabwysiadu’n unol â darpariaethau’r paragraff 8(3) newydd arfaethedig o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), yn nodi sut y mae Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu darparu gwasanaethau dwyieithog i Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd. Mae’n cynnwys:

·         uchelgais[b3]  y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog sy’n galluogi Aelodau’r Cynulliad a staff i weithio yn y ddwy iaith;

 

17. O ystyried hyn, yn ystod ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2011, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i gynnig Bil newydd, sef Bil Ieithoedd Swyddogol, er mwyn sicrhau bod y dyletswyddau cyfreithiol sy’n ymwneud â lle’r Gymraeg yng ngwaith y Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad yn cael eu diweddaru a’u rhoi ar sail statudol gadarn. [b4] 

 

 

Diffiniad o’r ‘cyhoedd’

 

18. Yn y Cynllun hwn, ystyr y term ‗cyhoedd‘ yw unigolion, personau cyfreithiol a chyrff anghorfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, neu ran o’r cyhoedd, yn ogystal ag aelodau unigol o’r cyhoedd. Mae’r term yn cynnwys cyrff gwirfoddol ac elusennau. Daw cyfarwyddwyr ac unigolion eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig o dan y term ‘cyhoedd‘ hefyd. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys pobl mewn cyrff cyhoeddus wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol. [b5] 

 

19. Nid yw’r Cynllun hwn yn ymdrin â gohebiaeth unigol rhwng Aelodau’r Cynulliad a’u hetholwyr. [b6] 


Awdurdod dros gydgysylltu’r Cynllun hwn a chyfrifoldeb amdano

 

23. Mae gan bob rheolwr gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo iddo dros:

 

 weithredu’r agweddau hynny ar y Cynllun sy’n berthnasol i’w waith;

 

 annog staff i ddefnyddio’u sgiliau ieithyddol;

 

 sicrhau bod aelodau newydd o staff yn ymwybodol o ethos dwyieithog y Cynulliad Cenedlaethol, uchelgais[b7]  y Cynllun a’r gwasanaethau a amlinellir.

 

 

Monitro ac adrodd

 

27. Ar ôl i Gomisiwn y Cynulliad ei ystyried, bydd yr adroddiad cydymffurfio blynyddol yn cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. [b8] 

 

 

Rhoi cyhoeddusrwydd i’n gwasanaethau dwyieithog a’u hyrwyddo

 

31. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad, y cyhoedd a staff y Cynulliad yn ymwybodol o’r Cynllun hwn a’r gwasanaethau a ddarperir. Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i’n gwasanaethau dwyieithog drwy:

 

 sicrhau y gellir cynnig ein holl wasanaethau cyhoeddus, hyd eithaf ein gallu, yn ddwyieithog pan fydd y cyhoedd yn cysylltu â ni am y tro cyntaf[b9] , boed hynny ar lafar, wyneb-yn-wyneb, yn ysgrifenedig neu drwy ddarparwyr gwasanaeth eraill ar ein rhan;

 

 

Ymdrin â chwynion

 

37. Gallwch fynd ati i gwyno drwy:

 

 Yn y lle cyntaf, gyflwyno eich cwyn neu’ch pryder i swyddog yr ydych wedi bod yn delio ag ef[b10] .

 

 

Uchelgais[b11]  y Cynulliad Cenedlaethol

 

39. Uchelgais [b12] y Cynulliad Cenedlaethol yw bod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.

 

40. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod y Cynllun hwn yn galluogi i’r uchelgais[b13]  hwnnw gael ei wireddu

 

42. Diben strategaethau ac uchelgeisiau’r Cynulliad Cenedlaethol yw sicrhau bod gan y ddwy iaith yr un statws o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.


 

44. I wireddu’r uchelgais[b14]  hwn, byddwn yn ystyried y ffactorau a ganlyn:

 

 

Gwasanaethau dwyieithog ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u staff

 

46. Ein huchelgais[b15]  yw hwyluso’r broses o sicrhau bod trafodion y Cynulliad Cenedlaethol yn wirioneddol ddwyieithog drwy roi deunyddiau dwyieithog i Aelodau’r Cynulliad a’r dulliau iddynt gyfathrebu â’i gilydd a’r cyhoedd yn ddwyieithog.

 

 

Gwasanaethau dwyieithog: paratoi ar gyfer y Cyfarfod Llawn a’r cyfarfodydd pwyllgor

 

48. Bydd y dogfennau i’w hystyried yn gyhoeddus yn ystod y Cyfarfod Llawn, a ddrafftiwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad (ar wahân i’r rheini sydd â dyletswyddau fel Gweinidog) a staff y Cynulliad ar gael ar yr un pryd yn Gymraeg a Saesneg. Os bydd eitem yn cael ei chynnwys ar agenda’r Cyfarfod Llawn ar fyr rybudd[b16] , efallai na fydd yn bosibl cynhyrchu’r papurau hynny’n ddwyieithog, er y byddwn yn ceisio gwneud hynny ar bob achlysur.

 

49. Bydd y dogfennau i’w hystyried yn gyhoeddus yn ystod cyfarfodydd pwyllgor a ddrafftiwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad (ar wahân i’r rheini sydd â dyletswyddau fel Gweinidog) a staff y Cynulliad ar gael ar yr un pryd i aelodau’r pwyllgorau yn Gymraeg a Saesneg ac o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfodydd perthnasol. Bydd y cadeiryddion pwyllgor sy’n ddwyieithog yn cael papurau briffio dwyieithog i annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn ein trafodion. [b17] Os bydd eitem frys yn cael ei chynnwys ar agenda pwyllgor ar fyr rybudd, efallai na fydd yn bosibl cyhoeddi’r papurau hynny’n ddwyieithog, er y byddwn yn ceisio gwneud hynny ar bob achlysur.

 

50. Bydd dogfennau ategol, a ddrafftiwyd gan Gomisiwn y Cynulliad a staff y Cynulliad ar gyfer pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn, yn cael eu paratoi yn y ddwy iaith swyddogol, cyhyd â bod hynny’n rhesymol ymarferol[b18] . Byddwn yn darparu’r rhain i hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg gan Aelodau’r Cynulliad yn ein trafodion. Lle bydd hyn yn anymarferol, byddwn yn cynghori Pennaeth y Gwasanaeth perthnasol.

 

51. Bydd ceisiadau am ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau pwyllgor yn cael eu cyflwyno yn ddwyieithog a byddwn yn gwneud cais i ddogfennau a geir gan sefydliadau allanol neu drydydd parti y bwriedir eu cyhoeddi a / neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol fod yn ddwyieithog. Ein disgwyliad yw y bydd sefydliadau sydd â chynlluniau iaith, safonau neu bolisïau iaith yn cyflwyno ymatebion yn y ddwy iaith i sicrhau y gall Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd gymryd rhan yn y trafodion yn y ddwy iaith. [b19] 

 

 

Gohebiaeth gan staff i Aelodau’r Cynulliad

 

67. Byddwn yn ceisio [b20] anfon gohebiaeth ysgrifenedig at Aelodau unigol, grwpiau plaid neu fforymau eraill yn ddwyieithog neu yn Gymraeg neu Saesneg pan fydd dewis wedi’i fynegi. Byddwn yn hysbysu’r Aelodau pan na fydd hyn yn bosibl.

 

Gwasanaethau dwyieithog i gyfathrebu ac ymgysylltu â’r cyhoedd

 

70. Ein huchelgais [b21] yw galluogi’r cyhoedd i gyfathrebu ac ymgysylltu â’r Cynulliad Cenedlaethol yn ddwyieithog. Mae gweddill yr adran hon yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni hyn.

 

73. Bydd dogfennau cyfreithiol a chytundebau cyfreithiol gydag unigolion, sefydliadau neu grwpiau yn cael eu cynnig yn Gymraeg neu Saesneg[b22] .

 

Cyfarfodydd unigol

 

82. Pan fydd aelod o’r cyhoedd yn dymuno trafod gweithdrefnau neu wasanaethau’r Cynulliad Cenedlaethol wyneb-yn-wyneb, mae croeso iddo wneud hynny yn Gymraeg neu Saesneg. Byddwn yn trefnu’r cyfarfod drwy ganfod ymlaen llaw pa iaith yr hoffai’r aelod o’r cyhoedd ei siarad, ac os yw’n dewis y Gymraeg, byddwn yn trefnu bod siaradwr Cymraeg yn mynd i’r cyfarfod. Os nad yw hynny’n bosibl, byddwn yn trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd, lle bo hynny’n rhesymol ymarferol[b23] . Os nad yw’r opsiynau hynny ar gael, gwahoddir yr aelod o’r cyhoedd i ymdrin â’r mater mewn gohebiaeth yn Gymraeg neu i barhau â’r cyfarfod yn Saesneg. Pan gynhelir cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb ar fyr rybudd, dilynir y camau uchod, ond ni allwn sicrhau y bydd siaradwr Cymraeg ar gael bob tro.

 

 

Rheoli ac annog sgiliau dwyieithog staff y Cynulliad

 

97. Er mwyn i ni wireddu ein huchelgais[b24]  i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog, byddwn yn:

 

99. Yn ogystal ag annog staff i ddysgu Cymraeg neu i wella eu sgiliau Cymraeg, rydym yn bwriadu lleihau ein dibyniaeth ar ein gwasanaeth cyfieithu dros amser. Bydd hyn yn debygol o olygu y bydd angen i fwy o’n staff dwyieithog ddatblygu eu sgiliau drafftio yn Gymraeg. Mae’r

defnydd cynyddol o’r gwasanaeth gwirio testun yn awgrymu y bu gwelliannau yn y maes hwn a bod mwy o staff yn paratoi papurau drafft yn ddwyieithog. Fodd bynnag, bydd angen i ni ddatblygu’r maes hwn ymhellach yn y dyfodol. Os ydym am wireddu uchelgais[b25]  y Cynllun hwn, mae angen i nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg gynyddu hefyd.

 

 

Gweithio mewn partneriaeth

 

119. Os bydd Comisiwn y Cynulliad yn ymuno â phartneriaeth ffurfiol o dan arweinyddiaeth sefydliadau eraill, bydd cyfraniad Comisiwn y Cynulliad yn cydymffurfio â’r Cynllun hwn. Bydd y partneriaid eraill yn cael eu hannog i gydymffurfio â’r Cynllun hwn yn ogystal neu, o leiaf, gydag ysbryd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 [b26] 

 

 

 

 


 [b1]Pam mae’r dyfyniad yma yn Saesneg yn y fersiwn Cymraeg?

 [b2]Pam mae’r dyfyniad yma yn Saesneg yn y fersiwn Cymraeg?

 [b3]Awgrymu defnyddio’r gair “bwriad” yn lle uchelgais – mae’n fwy penodol

 [b4]Croesawu hyn

 [b5]Er mwyn annog dwyieithrwydd yn y gweithle, efallai y byddai’n bosibl ystyried ffyrdd yr all YCynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad hybu defnydd mwy o’r Gymraeg gan eu staff wrth iddynt gyfathrebu a gweithio â gweithwyr Cymraeg eu hiaith mewn cyrff cyhoeddus eraill.

 [b6]Er bod hawl gan unigolion gyfathrebu â’u Aelod Cynulliad yn y Gymraeg, a disgwyl ymateb ysgrifenedig yn y Gymraeg os mai dyna’u dewis iaith nhw?

 [b7]Awgrymu defnyddio’r gair “bwriad” yn lle uchelgais – mae’n fwy penodol

 [b8]A’i gyhoeddi i’r cyhoedd mewn ffyrdd priodol.

 [b9]Pam am y tro cyntaf yn unig?

 [b10]/hi

 [b11]Awgrymu defnyddio’r gair “amcan” yn lle uchelgais – mae’n fwy penodol

 [b12]Awgrymu defnyddio’r gair “amcan” yn lle uchelgais – mae’n fwy penodol

 [b13]Awgrymu defnyddio’r gair “amcan” yn lle uchelgais – mae’n fwy penodol

 [b14]Awgrymu defnyddio’r gair “amcan” yn lle uchelgais – mae’n fwy penodol

 [b15]Awgrymu defnyddio’r gair “amcan” yn lle uchelgais – mae’n fwy penodol

 [b16]Eisiau diffinio’r term ar fyr rybudd

 [b17]Croesawu hyn

 [b18]Mae sefydliadau cyhoeddus eraill wedi symud i ffwrdd o ddefnyddio’r term “rhesymol ymarferol”. Awgrymu dileu hyn neu ddefnyddio term mwy penodol

 [b19]Croesawu hyn

 [b20]Awgrymu dileu “yn ceisio”. Dylid cofnodi dewis iaith a’i pharchu

 [b21]Awgrymu defnyddio’r gair “bwriad” yn lle uchelgais – mae’n fwy penodol

 [b22]Ac yn ddwyieithog – er mwyn annog dysgwyr ac ateb anghenion teuluoedd/grwpiau/sefydliadau dwyieithog

 [b23]Mae sefydliadau cuhoeddus eraill wedi symud i ffwrdd o ddefnyddio’r term “rhesymol ymarferol”. Awgrymu dileu hyn a diffinio pam na fyddai’n bosibl trefnu cyfieithu ar y pryd

 

 [b24]Awgrymu defnyddio’r gair “bwriad” yn lle uchelgais – mae’n fwy penodol

 [b25]Awgrymu defnyddio’r gair “bwriad” yn lle uchelgais – mae’n fwy penodol

 [b26]Awgrymu ychwanegu cymal i sicrhau y bydd unrhyw nwyddau/wasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru a gynhyrchir trwy’r fath bartneriaeth yn ddwyieithog. Oes angen sôn am y Mesur hefyd?